Y Fro Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
symud y llun
ehangu
Llinell 27:
Diffiniwyd 'Y Fro Gymraeg' gan [[Owain Owain]] yn Rhifyn 4 o [[Dafod y Ddraig]] yn Ionawr [[1964]]. Yna, mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn [[Y Cymro]], [[12 Tachwedd]], [[1964]], rhoddir ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg. Dywedodd Owain yn ei erthygl y frawddeg enwog: 'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'
 
Dilynwyd ef gan yr Athro J. R. Jones ac yna [[Emyr Llewelyn]] a ffurfiodd [[Mudiad Adfer]] gyda'r nôd o warchod Y Fro Gymraeg. Ers 1964, fel y gwelir o gymharu map Owain Owain (uchod) a'r map ieithyddol cyfoes, mae tiriogaeth y Fro wedi crebachu yn sylweddol.
 
== Agweddau gwleidyddol ==
Er mai tiriogaeth a ddiffinir gan iaith yw'r Fro Gymraeg, mae iddi ei hagweddau gwleidyddol hefyd. Yn ogystal â bod yn gadarnle i'r iaith Gymraeg mae gan y Fro y canran uchaf yn y wlad o bobl sy'n ystyried eu hunain yn [[Cymry|Gymry]] yn hytrach nag yn [[Prydeindod|Brydeinwyr]] (gyda Chymoedd De Cymru). Adlewyrchir hyn yng nghanlyniad [[refferendwm datganoli i Gymru, 1997]], hefyd. Nid yw'n syndod felly mai'r Fro Gymraeg yw prif gadarnle [[Plaid Cymru]].
 
Mae'r mapiau isod yn dangos y tueddiadau gwleidyddol hyn:
 
<gallery>
Delwedd:Siaradwyr y Gymraeg ym Mhrif Ardaloedd Cymru.png|Canrannau siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru ([[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Cyfrifiad 2001]])
Delwedd:Map o hunaniaeth Gymreig.PNG|Canrannau wnaeth ystyried ei hun yn "Gymreig" yn awdurdodau lleol Cymru (2006)
Delwedd:WalesRef1997.png|Mwyafrifoedd a bleidleisiodd o blaid neu yn erbyn datganoli yn [[refferendwm datganoli i Gymru, 1997|refferendwm 1997]]{{eglurhad|#00C000|Y bleidlais o blaid}}{{eglurhad|#0000C0|Y bleidlais yn erbyn}}
</gallery>
 
==Ffynonellau==