Ifor ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Uchelwr o [[Teyrnas MorgannwgGwent|ForgannwgWent]] oedd '''Ifor ap Llywelyn''' a adwaenir yn well fel '''Ifor Hael''' (fl. c. [[1320]] - [[1360]]/[[1380]]). Roedd yn gyfaill a phrif noddwr y bardd enwog [[Dafydd ap Gwilym]]. Daeth i gynrhychioli delfryd nawdd yng ngolwg [[Beirdd yr Uchelwyr]] a beirdd Cymru ar eu hôl. Mae'r epithet 'Hael' yn adlais bwriadol o'r 'Tri Hael' a geir yn nhestunau [[Trioedd Ynys Prydain]].
 
Ychydig o ffeithiau cadarn sydd gennym amdano. Cedwir ei ach fel Ifor ap Llywelyn ab Ifor ap Bledri ap Cadifor Fawr, arglwydd Blaen-[[Afon Cuch|cuch]] yn [[Dyfed|Nyfed]]. Priododd ei dad, Llywelyn, Angharad ferch Morgan ap Maredudd o [[Tredegar|Dredegar]], un o ddisgynyddion [[Rhys ap Tewdwr]], gan symud i fyw ymyng MorgannwgNgwent pan etifeddodd ei wraig diroedd Morgan. Mae cyfeiriadau mewn dwy ddogfen yn dangod i Angharad gael ei geni naill ai ym [[1293]] neu [[1299]], sy'n awgrymu i Ifor gael ei eni tua 1315-20.
 
Trigai Ifor ym mhlas Gwernyclepa ger [[Basaleg]] ymyng MorgannwgNgwent, tua milltir i'r de o'r pentref presennol lle cadwai groeso cynnes ar ei aelwyd i'r beirdd. Ceir sawl cyfeiriad at lys Ifor Hael yng nghanu Dafydd ap Gwilym. Credir i'r bardd ganu iddo yn y cyfnod 1345-80. Mae un o'i gerddi yn gywydd mawl i lys Ifor ym Masaleg sy'n cynnwys y llinellau:
:Mawr anrhydedd a'm deddyw;
:Mi a gaf, o byddaf fyw,