Mormoniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen
manion
Llinell 6:
Mae gan y Mormoniaid gysylltiadau hanesyddol cryf â [[Cymru|Chymru]], yn enwedig y de. Bu cenhadon Mormonaidd yn weithgar yng Nghymru yn y 1840au a'r 1850au, a throdd miloedd o bobl i'r grefydd newydd. Ymfudodd nifer ohonyn nhw i America, ac aeth cyfran sylweddol o'r ymfudwyr hynny ar y Symudiad mawr i'r Gorllewin gyda [[Brigham Young]], a ddechreuodd yn 1847. Ymsefydlodd y Cymry gyda'r Mormoniaid eraill yn [[Utah]], a dywedir fod tua 20% o boblogaeth y dalaith honno o dras Cymreig heddiw.<ref>[http://www.welshmormonhistory.org/ welshmormonhistory.org]</ref>
 
Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a llyfr yn y Gymraeg gan y Mormoniaid yn y 19g, yn cynnwys ''[[Utgorn Seion]]''. [[Daniel Jones|Daniel Jones (Mormon)]] (g. 4 Awst 1811) o [[Abergele]] oedd un o'u harweinwyr. Wedi iddo ymfudo i America troes Daniel Jones yn Formon wrth ei waith yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn cwch a oedd dan ei ofal. Roedd gyda Joseph Smith ar y 26 Mehefin 1844 lofruddiwyd ef. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd Jones i Gymru yn genhadwr Mormonaidd. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan a chyhoeddi yno gyfnodolyn misol, ''[[Prophwyd y Jubili]]''. Hwyliodd o [[Lerpwl]] ar 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o Gymry, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau gan gyrraedd Salt Lake City ar 26 Hydref 1849 gyda'r fintai yn teithio mewn 25 o wagenni caeedig. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth â 703 o 'seintiau Cymreig' i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn bennaethgapten cwch ar lyn Great Salt. Bu f.farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.
 
== Cyfeiriadau ==