Llywarch ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
 
== Ei gerddi ==
Cedwir 19 [[awdl]] o waith y bardd, cyfanswm o 1,318 o linellau, ac 11 cyfres o [[englyn]]ion (462 llinell). Mae hyn yn gorff o ganu sy'n ail yn unig i waith [[Cynddelw Brydydd Mawr]]. Ceir sawl cerdd i dywysogion ac arglwyddi Gwynedd, sef [[Dafydd ab Owain Gwynedd]], [[Rhodri ab Owain Gwynedd]], [[Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd]], [[Maredudd ap Cynan]] o Wynedd, Hywel ap Gruffudd o Feirionnydd, Gruffudd ap Hywel a [[Gruffudd ap Llywelyn]]: ond ei waith amlycaf yw ei ganu i'w noddwr pwysicaf [[Llywelyn Fawr]]. Mae'r canu hwn yn cynnwys 'Y Canu Mawr' ac 'Y Canu Bychan', lle gwelir cenedlgarwch y bardd a'i deyrngarwch at Lywelyn atar ei grymusaf.
 
Canodd hefyd i Fadog ap Gruffudd Maelor o Bowys, Iorwerth ap Rhotbert o [[Arwystli]], a [[Rhys Gryg]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]]. Yr unig gerddi ganddo ar glawr sy ddim yn gerdd fawl neu farwnad i noddwyr yw ei awdl foliant i Gwenllïan ferch Hywel o [[Gwynllŵg|Wynllŵg]] ac 'Awdl yr Haearn Twym'.