Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robert Jones Derfel"

Ychwanegwyd 4 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
dolen
(dolen)
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes.
 
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at [[sosialaeth]]. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
 
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn ''[[Y Cymro]]'' a ''Llais Llafur '' rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar [[Robert Owen]] fel [[nawddsant]] Cymru yn lle [[Dewi Sant]].
6,681

golygiad