Ieithyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Garik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Garik (sgwrs | cyfraniadau) B Camgymeriadau bach |
||
Llinell 2:
'''Ieithyddiaeth''' yw'r enw a roddir ar yr astudiaeth [[gwyddoniaeth|wyddonol]] o [[iaith]]. Cynhwysa'r ddisgyblaeth yn bennaf ymchwil strwythur ac ystyr ieithyddol. Gelwir yr ail faes ymchwil yn [[semanteg]]; [[gramadeg]] yw'r enw a roddir ar ymchwil strwythur ieithyddol, ac fe gynhwysa dri is-faes, sef [[morffoleg (iaith)|morffoleg]] (yr astudiaeth o ffurfiad a chyfansoddiad geiriau), [[cystrawen]] (yr astudiaeth o'r rheolau a phenderfynant sut y cyfunir geiriau i ffurfio [[ymadrodd|ymadroddion]] a [[brawddeg|brawddegau]]), a [[ffonoleg]] (yr astudiaeth o systemau sain ac unedau sain mewn iaith). Astudiaeth berthnasol i'r olaf, yn ymwneud â phriodweddau ffisegol seiniau llafar, yw [[seineg]]. Fe elwir unigolyn a wna ymchwil ieithyddol yn ieithydd.
Mae ieithyddiaeth, fel pob cangen o
==Amcanion sylfaenol ac ymraniadau pwysig==
Prif amcan ieithyddiaeth fodern yw disgrifio ac egluro natur iaith. Golyga hyn, uwchlaw popeth, ddod i ddealltwriaeth o'r hyn sydd yn gyffredin i bob iaith, yr hyn sydd yn amrywio rhwng ieithoedd, a'r modd y mae pobl yn dysgu ieithoedd (yn enwedig eu mamieithoedd). Gall pob bod dynol (heblaw am rai achosion patholegol) gyrraedd cymhwysedd ym mha bynnag iaith a siaredir (neu arwyddir) o'i amgylch yn ystod plentyndod, heb angen cyfarwyddant uniongyrchol neu ymwybodol. Er y gall anifeiliaid eraill ddysgu systemau cyfathrebu eu hunain, ni lwyddant i ddysgu iaith ddynol yn yr un modd. Tybia ieithyddion felly mai potensial cynhenid yw'r gallu i ddysgu a defnyddio iaith, yn debyg i'r gallu i gerdded. Anghytunir fodd bynnag ynglŷn
Datblygodd ieithyddiaeth yr ugeinfed ganrif i fod yn "[[strwythuriaeth|strwythuriaethol]]" gan ei bod yn trin iaith fel system gymhleth na chaiff elfen ohoni ystyr neu hunaniaeth ond mewn perthynas ag elfennau eraill y system; dechreuodd y ddealltwriaeth hon o iaith efo gwaith [[Ferdinand de Saussure]] ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddechrau'r ugeinfed. Dominyddwyd ieithyddiaeth ail hanner yr ugeinfed ganrif gan theori [[Gramadeg cynhyrchiol]], sydd yn dilyn gwaith [[Noam Chomsky]], a etifeddodd lawer gan y traddodiad strwythuriaethol (er nad ydyw yn hollol
==Cyfeiriadur==
|