Yr Wyddfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ja:スノードン山
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 155:
[[Delwedd:TrenWyddfa.JPG|bawd|250px|chwith|Trên bach yr Wyddfa yn dynesu at orsaf Hebron, ar draws Gwaun Cwm Brwynog. Adfeilion Capel Hebron i'r dde o'r orsaf.]]
 
Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn [[rheilffordd]] bach yn defnyddio [[Rheilffordd rhac a phiniwn|system rhac a phiniwn]], sy'n rhedeg ar drac lled cul o bentref [[Llanberis]] i gopa'r Wyddfa. Y rheilffordd yma, sydd yn 4 milltir 1188 llathen (7.524 km) o hyd, yw'r unig reilffordd rac ym Mhrydain. Mae'n cychwyn yn Llanberis 108 m (353 troedfedd) uwwch lefel y môr, ac yn aros yng ngorsafoedd Rhaeadr, Hebron, Hanner Ffordd a Clogwyn cyn cyrraedd y copa. Os yw'r tywydd yn ddrwg, dim ond cyn belled a Clogwyn y bydd y trên yn mynd.
 
Adeiladwyd y rheilffordd rhwng Rhagfyr [[1894]] a Chwefror [[1896]], ar gost o £76,000. Agorwyd y rheilffordd i'r cyhoedd ar ddydd Llun, [[6 Ebrill]]. Bu damwain ar y diwrnod cyntaf, pan neidiodd y trên oddi ar y trac. Neidiodd y gyrrwr a'r taniwr oddi ar y trên wedi iddynt sylweddoli nad oedd ganddynt reolaeth arni. Gwelodd un o'r teithwyr,