Morfran eil Tegid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: :''Am yr aderyn a elwir weithiau yn Forfran gweler Mulfran.'' Cymeriad chwedlonol Cymreig yw '''Morfran eil Tegid''' ("Morfran fab Tegid"). Mae'n debyg fod yr enw Morfran yn gyfu...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Mae'n ymddangos yn rhan gyntaf y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'', sy'n ei bortreadu fel mab hynod hyll ac anwydodus [[Ceridwen]] a [[Tegid Foel]]. Ar lan [[Llyn Tegid]], mae ei fam, Ceridwen, yn ceisio ennill lle i'w mab anffodus yn y byd trwy ferwi cymysgedd hud a lledrith mewn [[pair]] "am ddiwrnod a blwyddyn". Byddai'r tri defnyn cyntaf yn rhoi iddo wybodaeth am bopeth a fu, y sydd ac a fydd, ond maent yn tasgu ar fawd [[Taliesin Ben Beirdd|Gwion Bach]] ([[Taliesin]]), a osodwy i ofalu am y pair, ac ef sy'n cael y wybodaeth yn lle Morfran. Mewn un fersiwn o ''Hanes Taliesin'' mae gan Morfran frawd o'r enw Afagddu, ond cymysgedd sydd yn y testun a gellir derbyn mai math o lysenw ar Morfran yw Afagddu, am ei fod mor hyll (ei chwaer [[Creirwy]], mewn cyferbyniaeth, yw'r "ferch harddaf yn y byd").
 
Cyfeirir at Morfran mewn dau o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]]. Mae'n un o 'Dri Ysgymydd Aerfau [[Ynys Prydain]]', gyda Gilbert mab Cadgyffro a Gwgawn[[Gwgon Gleddyfrudd]], ac mae'n berchen un o 'Dri Gordderchfarch' yr ynys, sef Gwelwgan Gohoywgain.
 
Cyfeirir ato hefyd yn y chwedl fwrlesg ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]''.
Llinell 16:
* Patrick K. Ford (gol.), ''Ystoria Taliesin'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1992)
* Ifans,Dafydd & Rhiannon, ''Y Mabinogion'' ([[Gwasg Gomer]], 1980) ISBN 1 85902 260 X
 
==Gweler hefyd==
* ''[[Hanes Taliesin]]''
 
 
[[Category:Cylch Arthur]]