Geoffrey Chaucer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Llenor [[Saesneg]] oedd '''Geoffrey Chaucer''' (c. [[1343]] – [[25 Hydref]], [[1400]]?). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur ''[[The Canterbury Tales]]''.
 
Ganed ef yn [[Llundain]] yn 1343, ond ni wyddir y dyddiad. Bu'n ŵr llys, diplomydd a gwas sifil. Pan ymosododd [[Edward III, brenin Lloegr|Edward III]] ar [[Ffrainc]] yn nechrau'r [[Rhyfel Can Mlynedd]], aeth Chaucer i Ffrainc gyda Lionel o Antwerp, Dug Clarence. Yn [[1360]], cymerwyd ef yn garcharor yng ngwarchae [[RheimsReims]]; cafodd ei ryddhau am dâl.
 
Nid oes llawer o fanylion ar gael am ei fywyd, ond ymddengys iddo deithio yn Ffrainc, [[Sbaen]] a [[Fflandrys]], ac iddo efallai fynd ar brererindod i [[Santiago de Compostela]]. Tua [[1366]], priododd [[Philippa (de) Roet]]. Ymwelodd a [[Genoa]] a [[Fflorens]] yn 1373, a chredir i farddoniaeth [[yr Eidal]] ddylanwadu arno.