Gwallog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Brenin neu bennaeth o'r [[Hen Ogledd]] a gysylltir a theyrnas [[Elmet]] oedd '''Gwallog''' (fl. [[6ed ganrif]]). Ceir sawl ffurf [[Cymraeg Canol]] ar ei enw, yn cynnwys '''Gwallawg fab Lleenawg''' a '''Gwallawg mab Llaenawg'''. Mae'r ffurf ar ei enw a ddefnyddir gan ysgolheigion yn amrywio hefyd, e.e. Gwallawg ap Lleynnawg (Brynley F. Roberts).
 
Cyfeirir at Gwallog yng ngwaith [[Nennius]] fel un o bedwar brenin y [[Brythoniaid]] - ei gefnder [[Urien Rheged]], [[Morgant Bwlch]], a [[Rhydderch Hen]] oedd y lleill - a wrthsefyllodd [[Hussa]], brenin [[Anglia]]idd [[Brynaich]]. Yn yr Achau Cymreig mae'n un o ddisgynyddion [[Coel Hen]] ac yn fab i Lleenawg.
 
Ceir dwy [[awdl]] i Wallog a briodolir i'r bardd [[Taliesin]] yn ''[[Llyfr Taliesin]]''. Mae un ohonynt yn foliant iddo, sy'n cynnwys llinell lle dywedir fod rhyfelwyr [[Aeron]], yn nheyrnas [[Rheged]], yn crynu rhag ei ofn. Mae'r ail yn [[marwnad|farwnad]] iddo. Ar sail cyfeiriad unig yn un o'r awdlau hyn fel "ynad" [[Elmet]], damcaniaethir ei fod yn frenin ar y deyrnas fechan honno.