Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Ychwanegu: nl:Brychan van Brecknock
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler [[John Davies (Brychan)]].''
Brenin a [[sant]] oedd '''Brychan''' (fl. [[5ed ganrif]]), sefydlwr [[teyrnas Brycheiniog]] (yn ne-ddwyrain [[canolbarth Cymru]]) yn ôl traddodiad. Fel sant dydd ei ŵyl yw [[5 Ebrill]].
 
Niwlog ac amhendant yw llawer o'r dystiolaeth amdano (efallai'n cynrychioli mwy nag un ffigwr o'r enw). Dywedir ei fod o dras [[Gwyddelod|Wyddelig]] a'i fod yn frenin cynnar ar Frycheiniog. Dywedir ymhellach ei fod yn fab i [[Marchell ferch Tewdrig|Farchell]], ferch [[Tewdrig]], brenin [[Garthmadrun]]. Yn ôl traddodiad croesodd Marchell i [[Iwerddon]] a phriododd y tywysog Anlach fab Coronac. Ganed plentyn i Farchell yn Iwerddon.