Hanes Gwlad Groeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: eu:Greziako historia |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 1:
Ar lannau'r [[Môr Aegeaidd]] y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd y [[Gwareiddiad Minoaidd]] ar ynys [[Creta]], gyda [[Knossos]] fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd y [[Gwareiddiad Myceneaidd]] ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.
Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd y ''polis'' ([[dinas-wladwriaeth]]). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd i [[Asia Leiaf]] a de [[yr Eidal]] (''[[Magna Graecia]]''). Ymladdodd [[Athen]] a [[Sparta]] gyda'i gilydd i drechu ymosodiad [[Ymerodraeth Persia]] yn y [[5eg ganrif CC]]. Yn ddiweddarach, ymladdwyd [[Rhyfel y Peloponnesos]] rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta gan [[Thebai]].
Daeth [[Macedon]]ia yn feistr ar y dinas-wladwriaethau Groegaidd gan [[Philip II, brenin Macedon]], a than ei fab ef, [[Alecsander Fawr]], gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn y [[Cyfnod Helenistaidd]]. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn [[146 CC]], a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.
Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]], gyda [[Caergystennin]] fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn [[1453]]. Daeth Groeg yn rhan o'r [[Ymerodraeth Ottomanaidd]], a pharhaodd dan reolaeth Ottomanaidd hyd ar [[Rhyfel Annibyniaeth Groeg|Ryfel Annibyniaeth Groeg]](1821 - 1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.
Wedi diwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], ymladdodd Groeg yn erbyn [[Twrci]] (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |[[Mustafa Kemal Atatürk]]. Yn [[1940]], ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddin [[yr Almaen]] ymyrryd a meddiannu Groeg.
Ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]], ymladdwyd [[Rhyfel Cartref Groeg]] rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym gan ''junta'' milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn [[1975]]. Ymunodd Groeg a'r [[Undeb Ewropeaidd]] ar [[1 Ionawr]] [[1981]], ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yr [[Ewro]] yn 2001.
===Gweler hefyd===
|