Carausius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: la:Carausius
categoriau
Llinell 3:
Roedd '''Marcus Aurelius Mausaeus Carausius''' (bu farw [[293]]) yn gadfridog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain a rhan o [[Gâl]] am rai blynyddoedd. Roedd yn aelod o lwyth Belgaidd y [[Menapii]], a ganed ef yn y rhan orllewinol o [[Batavia]] ([[Yr Iseldiroedd]] yn awr). Gwnaeth enw iddo'i hun yn ystod ymgyrch [[Maximian]] yn erbyn y [[Bagaudae]] yng ngogledd Gâl, ac o ganlyniad fe'i gwnaed yn bennaeth y llynges oedd yn gwarchod Prydain a gogledd Gâl, y ''[[Classis Britannica]]''. Roedd i fod i'w gwarchod rhag ymosodiadau y [[Sacsoniaid]] a'r [[Ffranciaid]], ond cododd amheuon ei fod yn gadael iddynt lanio ac anrheithio, yna yn eu dal wrth iddynt ddychwelyd a chymeryd yr ysbail iddo'i hun.
 
Gorchymynodd Maximian ei ddienyddio, ond ymateb Carausius oedd cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl, gan ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. Llwyddodd i gadw grym am saith mlynedd, gan fathu ei arian ei hun. Yn [[293]] llwyddodd [[Constantius Chlorus]], y ''Cesar'' yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddunflwyddyn llofruddiwyd Carausius gan ei weinidog cyllid, [[Allectus]], a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.
 
 
[[Categori:Marwolaethau 293]]
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig]]
[[Categori:Milwyr Ymerodraeth Rhufain]]
[[Categori:Gâl]]
 
[[ca:Carausi]]