Rhanbarth Ymreolaethol Tibet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Un o ranbarthau ymreolaethol [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] sy'n cynnwys rhan sylweddol o'r [[Tibet]] hanesyddol yw '''Rhanbarth Ymreolaethol Tibet''' neu '''Xizang'''. [[Lhasa]], prifddinas hanesyddol Tibet, yw prifddinas y rhanbarth. Mae canolfannau mawr eraill yn cynnwys [[Shigatse]], [[Gyantse]] a [[Nagchu]].
 
Cafodd y rhanbarth ei ffurfio ar ôl i Weriniaeth Pobl Tsieina oresgyn Tibet yn ystod y 1950au. Mae'n cynnwys talaith hanesyddol [[Ü-Tsang]] a rhan o orllewin [[Kham]], daudwy o'r tritair talaith hanesyddol - gyda Amdo - a ffurfiai teyrnas Tibet.
 
Mae llywodraeth alltud Tibet - [[Gweinyddiaeth Ganolog Tibet]] - yn gwrthod cydnabod y rhanbarth, gan ddadlau iddo gael ei orfodi ar Dibet gan rannu'r wlad mewn canlyniad a rhoi ei rhannau dwyreiniol i Tsieina. Ffôdd nifer fawr o Dibetiaid o'r ardal i geisio lloches yn [[India]], e.e. yn [[Dharamsala]] a [[Darjeeling]] - ac mae nifer sylweddol o bobl [[Han]] o [[Tsieina]] wedi symud i mewn i fyw yno ers hynny, gyda chefnogaeth ariannol llywodraeth Tsieina.