Agamemnon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Pan mae [[Paris (mytholeg)|Paris]], sy'n fab i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]] yn cipio [[Helen o Gaerdroea|Helen]], gwraig Menelaos, a'i dwyn i Gaerdroea, mae Meneloaos yw gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], gydag Agamemnon yn arweinydd arnynt.
 
Pery [[Rhyfel Caerdroea]] am ddeng mlynedd cyn i'r ddinas gael ei chipio a'i dinistrio. Pan ddychwel Agamemnon adref o'r rhyfel, llofruddir ef gan ei wraig, Clytemnestra, a'i chariad [[Aegisthus]], wedi iddo anwybuddu rhybudd ei ordderch [[Cassandra]].
 
Gallai Agamemnon fod wedi ei seilio ar gymeriad hanesyddol; mae dogfennau [[Hethiaid|Hethaidd]] yn crybwyll ''Akagamunaš'', rheolwr ''Ahhiyawa'' (gwlad yr Acheaid) yn y 14eg ganrif CC.