Persephone: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Meyers b12 s0862.png|bawd|220px|Persephone a Hades; llun o gerflun yn y Fatican]]
 
Duwies ym [[mytholeg GroegRoeg]] oedd '''Persephone''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: '''Περσεφόνη''', ''Persephonē''); ffurf [[Homeros|Homerig]] ''Περσεφονηία'', ''Persephonēia''. Cyfeirir ati hefyd fel '''Core''' (''Κόρη'', ''Korē'', "merch", "morwyn"). Yn y traddodiad Rhufeinig, gelwid hi yn [[Proserpina]]. Roedd yn ferch i [[Demeter]], duwies grawn a thyfiant; yn ôl rhai traddodiadau, [[Zeus]] oedd ei thad.
 
Roedd [[Dirgelion Eleusis]], a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig a hi, yn arbennig y chwedl amdani hi a'i mam. Roedd Persephone wedi ei chipio gan [[Hades (duw)|Hades]], duw yr isfyd. Wedi i Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwech hedyn pomegranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan oedd yn Hades nid oedd tyfiant; felly y cafwyd y tymhorau.