Delos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Delos Lions.jpg|bawd|Teras y Llewod, Delos.]]
 
Mae '''Delos''' ([[Groeg]]: Δήλος, ''Dhilos'') yn ynys yng nghanol y cylch o ynysoedd a elwir y [[Cyclades]] yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]]. Roedd yr ynys yn bwysig ym [[mytholeg GroegRoeg]]; dywedid mai yma yr oedd man geni y duw [[Apollo]] a'r dduwies [[Artemis]].
 
Credir fod pobl wedi bod yn byw ar Delos ers y trydydd mileniwm cyn Crist. Yn ôl yr hanesydd [[Thucydides]] roedd y boblogaeth wreiddiol yn forladron Cariaidd, a yrrwyd o'r ynys gan y brenin [[Minos]] o ynys [[Creta]]. Erbyn cyfnod [[Homeros]] roedd yr ynys yn enwog fel man geni Apollo ac Artemis. Rhwng [[900 CC]] a [[100]] OC., ystyrid Delos yn ynys sanctaidd, gyda theml i [[Dionysus]] yno hefyd.