Argos (dinas): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g, 5ed ganrif → 5g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Argos City.jpg|bawd|250px|Gweddillion hen theatr Argos]]
 
Mae '''Argos''' ([[Groeg]]: '''Άργος''', ''Árgos,'') yn ddinas yn y [[Peloponnesos]] yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]], gerllaw [[Nafplio]]. Ceir olion o'r cyfnod [[Neolithig]] yn y cysegr yn Argolis, rhyw 45 o stadia o Argos, i gyfeiriad [[Mycenae]]. Roedd y fangre yma wedi ei chysegru i'r dduwies [[Hera]]. Yn y cyfnod Myceneaidd roedd Argos yn ddinas bwysig, ynghyd â dinasoedd cyfagos [[Mycenae]] a [[Tiryns]]. Ym [[mytholeg Groeg,Roeg]] mae Perseus yn mynd ag Andromeda i Argos wedi iddynt briodi, ac maent yn sefydlu llinach brenhinol y [[Perseidiaid]] yno.
 
Wedi'r 6g CC. daeth [[Sparta]] yn fwy pwerus, ac effeithiodd hyn ar safle Argos. Roedd cryn elyniaeth rhwng Argos a Sparta, ac ni ymladdodd Argos yn ystod [[Rhyfeloedd Groeg a Persia]]. Yn ystod y [[Rhyfel Peloponnesaidd]] yn y 5g CC. roedd Argos yn bleidiol i [[Athen]] yn erbyn Sparta, ond ni chymerodd lawer o ran yn yr ymladd. Yn y [[12g]] adeiladwyd castell, ''Kastro Larissa'', ar fryn Larissa, safle'r hen Acropolis.