Dafydd Wigley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 9:
 
==Gyrfa wleidyddol==
Daeth yn aelod seneddol dros [[Caernarfon (etholaeth seneddol)|Caernarfon]] dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]] yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974|Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974]], ac yn aelod o'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] dros yr un etholaeth yn [[1999]] ond ymddeolodd fel [[aelod seneddol]] ar ôl [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2001|Etholiad Cyffredinol 2001]]. Wnaeth e ddim sefyll am etholiad y Cynulliad chwaith yn [[2003]] oherwydd salwch.
 
Daeth yn [[Llywydd Plaid Cymru]] gyntaf yn 1981, yn dilyn ymddeoliad [[Gwynfor Evans]], ond mi rhaid iddo roi'r gorau i'r llywyddiaeth yn [[1984]] oherwydd cyflwr iechyd ei blant. Daeth yn ôl i'r Llywyddiaeth wedi ymddeoliad [[Dafydd Elis-Thomas]] yn 1991 a bu yn y swydd tan y flwyddyn 2000, pan y bu rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd oherwydd afiechyd,er bod ar y pryd gyhuddiadau o gynllwynio yn ei erbyn.