Demeter: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Duwies ym [[mytholeg Groeg]] ac un o'r [[Deuddeg Olympiad]] oedd '''Demeter''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: '''{{Hen Roeg|Δημήτηρ}}'''). Roedd yn dduuwies grawn, ffrwythlondeb a'r tymhorau, ac yn cyfateb i [[Ceres]] ym mytholeg Rhufain.
 
Roedd yn ferch i'r [[Titan (mytholeg)|Titan]]iaid [[Cronus]] a [[Rhea (mytholeg)|Rhea]] ac yn chwaer i [[Poseidon]], [[Hades]], [[Hestia]], [[Hera]] a [[Zeus]]. Roedd [[Persephone]], [[Zagreus]], [[DespoinaDespoena (mytholeg)|Despoena]], [[Arion]], [[Plutus]] a [[Philomelus]] yn blant iddi. Yn aml, gelwid ar Demeter a Kore ("yr wyryf") fel ''to theo'' ('"y ddwy dduwies").
 
Roedd [[Dirgelion Eleusis]], a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig a hi, yn arbennig y chwedl amdani hi a'i merch, Persephone. Roedd Persephone wedi ei chipio gan [[Hades]], duw yr isfyd. Wedi i Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwech hedyn pomegranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan oedd yn Hades nid oedd tyfiant; felly y cafwyd y tymhorau.