Eglwys Loegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2:
Yr [[eglwys]] [[gwladwriaeth|wladol]] a sefydlodd [[Harri VIII o Loegr|Harri VIII]] yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]] pan dorrodd y cysylltiad â'r [[Eglwys Gatholig]] er mwyn iddo allu cael ysgariad yw '''Eglwys Loegr'''. [[Archesgob Caergaint]] yw pennaeth Eglwys Loegr a'r [[Anglicaniaeth|Eglwys Anglicanaidd]] yn ogystal. Datgysylltwyd [[Yr Eglwys yng Nghymru]] oddi wrth Eglwys Loegr ym 1920.
 
Mae Eglwys Loegr yn cynnwys elfennau [[Protestaniaeth|Protestannaidd]] amlwg yn ei chyfansoddiad, ond ar yr un pryd mae'n hawlio fod yn olynydd, fel eglwys sefydlog y wladwriaeth neu [[eglwys wladol]], i'r drefn eglwysig yn Lloegr a sefydlwyd gan [[Sant]] [[Awstin, archesgob Caergaint|Awstin]], esgob cyntaf Caergaint, ddiwedd y [[6g]]. Roedd [[Cristnogaeth]] [[Cymru]] a'r gwledydd [[Celtiaid|Celtaidd]] eraill yn annibynnol, a dim ond yn raddol, o gyfnod y [[Normaniaid]] ymlaen, y daeth y drefn eglwysig yng Nghymru dan awdurdod archesgobion Caergaint.
 
Sylfaen athrawiaeth Eglwys Loegr yw'r ''[[Llyfr Gweddi Gyffredin]]'' a 39 Erthygl y Ffydd.