Agamemnon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:MaskeAgamemnon.JPG|bawd|dde|'Masg Agamemnon', a ddarganfuwyd gan [[Heinrich Schliemann]] yn [[1876]] yn [[Mycenae]]. Er gwaethaf yr enw, nid oes sicrwydd pwy y maen ei gynrychioli.]]
 
Cymeriad ym [[Mytholeg Roeg]] yw '''Agamemnon''' ([[Hen Roeg]]: '''{{Hen Roeg|Ἀγαμέμνων}}'''). Mae'n fab i [[Atreus]], brenin [[Mycenae]] a'i wraig [[Aerope]], ac yn frawd i [[Menelaus]]. Daw yn frenin Mycenae (neu [[Argos (dinas)|Argos]] yn ôl rhai fersiynau) ar ôl ei dad, ac mae'n briod a [[Clytemnestra]]. Mae'n gymeriad yn yr ''[[Iliad]]'' gan [[Homeros]]''.
 
Pan mae [[Paris (mytholeg)|Paris]], sy'n fab i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]] yn cipio [[Helen o Gaerdroea|Helen]], gwraig Menelaos, a'i dwyn i Gaerdroea, mae Meneloaos yw gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], gydag Agamemnon yn arweinydd arnynt.