Io (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Hermes Io Argos Staatliche Antikensammlungen 585.jpg|250px|bawd|[[Hermes]], Io (yn rhith buwch) ac [[Argus]]. Ochr A amphora ffigwr-du Groegaidd, 540–530 CC, o'r Eidal. Staatliche Antikensammlungen, Munich.]]
Ym [[mytholeg Roeg]], un o offeiriadesau y dduwies [[Hera]] ([[Juno]]) yn [[Argos (dinas)|Argos]] yr ymserchodd [[Zeus]] ynddi oedd '''Io''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Iώ ; [[IPA]] [ˈiːo]). Ar ôl cael cyfathrach gyda hi, newidiodd Zeus y ferch yn fuwch er mwyn ceisio cuddio ei weithred.
 
Roedd Hera yn ddrwgdybio bwriadau ei ŵr Zeus, ac anfonodd [[Argus]] ''Panoptes'' i'w gwarchod, ond anfonodd Zeus [[Hermes]] ([[Mercher (mytholeg)|Mercher]]) i dynnu sylw Argus a'i ladd. Mae'r mwyafrif o'r fersiynau o'r chwedl yn dweud mai [[Inachus]], duw afon y dywedir ei fod wedi cyflwyno cwlt Hera i ranbarth Argos, oedd tad Io.