Pyrrhus, brenin Epiros: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Yn [[278 CC]], aeth a'i fyddin i ynys [[Sicilia]], lle bu'n ymladd yn erbyn [[Carthago|y Carthaginiaid]]. Cipiodd gaer Eryx oddi wrthynt yn [[277 CC]]. Erbyn iddo ddychwelyd o Sicilia i'r Eidal, roedd y Rhufeiniad wedi codi byddin fawr, a phenderfynodd Pyrrhus ddychwelyd i Epiros.
 
Yn [[272 CC]], ymosododd ar [[Sparta]] i geisio rhoi Cleonymus ar yr orsedd. Wrth ymosod ar [[Argos (dinas)|Argos]], lladdwyd ef pan daflodd hen wraig deilsen ato, gan ei daro'n anymwybodol a rhoi cyfle i un o filwyr Argos ei ladd. Dilynwyd ef ar orsedd Epiros gan ei fab, [[Alexander II, brenin Epirus|Alexander II]].
 
Rhoddodd ei enw i'r ymadrodd "buddugoliaeth Byrrhig"; buddugoliaeth lle mae'r colledion mor uchel nes ei gwneud yn ddiwerth. Pan longyfarchwyd ef ar ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Asculum, dywedir iddo ateb "Byddai un fuddugoliaeth arall debyg yn fy nifetha" (Groeg: Ἂν ἔτι μίαν μάχην νικήσωμεν, ἀπολώλαμεν.)