Al Capone: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B roboto: hu:Al Capone estas artikolo elstara
cig ar esgyrn
Llinell 1:
[[Delwedd:Capone Teenager.jpg|200px|bawd|"Mugshot" o Al Capone]]
[[Giangster]] oedd '''Alphonse Gabriel Capone''' ([[17 Ionawr]], [[1899]] – [[25 Ionawr]], [[1947]]), a adnabyddir yn well fel '''Al "Scarface" Capone'''. Arweiniodd criw o ddynion i [[smyglo]] [[gwirodydd]] yng nghyfnod y gwaharddiad alcohol yn [[UDA]] yn ystod y 20au a'r 30au.
 
Fe'i ganwyd yn [[Brooklyn]], [[Efrog Newydd]] i ddau [[mewnfudwr|fewnfudwr]] o'r Eidal. Ar ôl symud i [[Chicago]] daeth yn ben ar griw annystywallt a alwyd yn ''[[Chicago Outfit]]'' - er fod ei gerdyn busnes yn ei ddisgrifio fel 'Gwerthwr Hen Greiriau'.
 
Tua diwedd y 1920au roedd gan ''Federal Bureau of Investigation'' ddiddordeb yn ei weithgareddau ac erbyn [[1931]] fe'i cafwyd yn euog mewn llys barn o osgoi talu'r dreth incwm.
 
Yn [[1929]] trefnodd yr hyn a alwyd yn Lladdfa Sant Ffolant ''(St. Valentine's Day Massacre)'' pan arweiniodd un o'i brif ddynion (sef [[Jack "Machine Gun" McGurn]] griw o'i ddynion wedi'u gwisg fel heddweision, a lladd saith o ddynion ei elyn mawr [["Bugs" Moran]].
 
Un o'r pethau sydd wedi ei wneud yn 'gangster' rhamantus, erbyn heddiw, ydy ei steil unigryw. Er enghraifft, yn aml iawn danfonai gwerth cannoedd o bunnoedd o flodau i deulu'r dyn roedd wedi ei ladd! Gwerth $5,000 ar un adeg! Mewn digwyddiad arall, pan anafwyd merch cwbwl ddieuog heb gyswllt â'r cwerlya, talodd Capone holl filiau ei thriniaeth yn yr ysbyty. Cytunai llawer o drigolion lleol â'i wrthwynebiad i'r Gwaharddiad. Daeth un o'i glybiau nos, y ''Cotton Club'', yn gyrchfan poblogaidd iawn i sêr ifanc megis [[Charlie Parker]] a [[Bing Crosby]].
 
Ond dyn treisgar ydoedd yn y bôn ac ar un achlysur trywanodd dau o'i brif ddynion gyda batiau pêl-fâs, gan eu lladd. Yn [[1932]] cafodd ei ddanfon i [[Carchar Atlanta|Garchar Atlanta]] ac yna i [[Alcatraz]].
 
 
{{eginyn Americanwyr}}
 
[[Categori:Genedigaethau 1899|Capone, Al]]].
[[Categori:Marwolaethau 1947|Capone, Al]]