Llangwm, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ysgol
Llinell 2:
Mae '''Llangwm''' yn bentref bychan gwledig yn ne-ddwyrain [[Conwy (sir)|bwrdeistref sirol Conwy]], gogledd [[Cymru]] (ond yn rhan o'r hen [[Sir Ddinbych]] gynt). Fe'i lleolir ar lôn fynydd tri-chwarter milltir o'i chyffordd ar yr [[A5]], tair milltir i'r de o [[Cerrigydrudion|Gerrigydrudion]]. Mae'r pentref tua 250m uwch lefel y môr, ar gyfartaledd.
 
Mae Llangwm yn un o gymunedau rhanbarth hanesyddol [[Uwch Aled]]. Rhed ffrwd fechan afon Medrad trwy'r pentref i'w chymer yn [[afon Ceirw]]. I'r gorllewin mae ffordd yn cysylltu Llangwm â phentref bychan [[Gellioedd]]. I'r de mae'r tir yn codi i gopa moel Foel Goch (2004 troedfedd).
 
Roedd y pentref yn flaenllaw iawn yn [[Rhyfel y Degwm|Rhyfeloedd y Degwm]].
 
Ganwyd y bardd [[Huw Jones]] ('Huw Jones o Langwm') yn Llangwm ar ddechrau'r [[18fed ganrif]].
 
Brodor arall o Langwm oedd y cyhoeddwr ac awdur [[Hugh Evans]] (1854-1934). Mae ei gyfrol enwog ''[[Cwm Eithin]]'' yn seiliedig ar ei brofiad o fywyd amaethyddol y fro.
 
Mae oddeutu tri-deg o blant yn yr ysgol gynradd; eu harwyddair yw: ''Yn y llaw fach mae'r holl fyd.''
 
{{Trefi Conwy}}