Mudiad Ysgolion Meithrin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
mwy o gig
Llinell 1:
Mudiad a ffurfiwyd yn [[1971]] gyda'r amcan o sefydlu [[ysgol feithrin|ysgolion meithrin]] [[Cymraeg]] a hyrwyddo [[addysg]] feithrin yn yr iaith yw'r '''Mudiad Ysgolion Meithrin'''. Yn sgîl hyn, mae'n cyfrannu'n helaeth at yr ymdrech i adfywio'r iaith.
 
Er y cynhaliwyd dosbarthiadau meithrin Cymraeg gwirfoddol yn gyntaf yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] ac yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] yn 1943, ac yna yn y Barri yn 1951, prin fu'r ysgolion meithrin yng Nghymru cyn y 1970au. Diolch yn bennaf i waith y Mudiad Ysgolion Meithrin, erbyn [[1996]] bodolai dros 650 o gylchoedd meithrin ac erbyn [[1998]] mynychai dros 14,000 o blant yr ysgolion meithrin Cymraeg. Cynyddu y mae'r nifer o hyd.
 
Mabwysiadodd y mudiad gynllun drws agored, reit o'r cychwyn, gan dderbyn plant o gartrefi di-Gymraeg yn ogystal â chartrefi Cymraeg er mwyn boddi'r di-Gymraeg yn y Gymraeg. Yr un pryd, sicrhawyd nifer o ffynonellau nawdd megis y [[Swyddfa Gymreig]] (llywodraeth [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] erbyn hyn.
 
Cafywd cysylltiad clos rhwng y mudiad a'r cylchoedd 'Ti a Fi' a hefyd gyda'r gwasanaethau anghenion arbennig.
 
==Dolenni allanol==