T. H. Parry-Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
cig
Llinell 1:
'''Thomas Herbert Parry-Williams''' ([[21 Medi]] [[1887]]-[[3 Mawrth]] [[1975]]), bardd, ysgrifwr ac athro prifysgol, adnabyddirmae'n cael ei adnabod yn aml fel '''T.H. Parry-Williams''' felneu rheol'T.H.'. Ef yw awdur y gerdd enwog 'Hon'.
 
Ganed T.H. Parry-Williams yn [[Rhyd-ddu]], lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; yn wir sgwennodd soned enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i [[Robert Williams Parry]]. Graddiodd mewn [[Cymraeg]] yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1908, yna cymerodd radd arall mewn [[Lladin]] y flwyddyn wedyn. Aeth i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] ac yna i Brifysgolion [[Fribourg (dinas)|Freiburg]] a [[Paris]] i astudio ymhellach. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1920, ac ar ôl ymddeol yn 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth yn 1975.
 
Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|y Gadair]] a'r [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Goron]] yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond yn 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ac astudiaethau academaidd.
 
Roedd ffurf newydd yr ysgrif yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.
 
Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987. Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: y diffyg ystyr sydd drwyddynt. Ef yw Brenin y soned Gymraeg; a dyma enghraifft allan o
[[Llyn y Gadair]]:
Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gwr
Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan....''
 
 
 
gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oed dim yno:
 
''... Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.''
 
 
== Cyhoeddiadau ==