Demetrius Poliorcetes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 2:
 
Yn [[307 CC]], arweiniodd fyddin tuag [[Athen]], a gorfodi [[Demetrius Phalereus]], unben Athen, i ffoi i [[Alexandria]]. Ail-sefydlodd Demetrius hen gyfansoddiad Athen, a barodd i'r dinasyddion ei gyfarch ef a'i dad fel ''theoi soteres'', "gwaredwyr dwyfol". Yn [[306 CC]], gorchfygodd Menelaus, brawd [[Ptolemi I Soter]], brenin [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], ym [[Brwydr Salamis (306 CC)|Mrwydr Salamis]] ger arfordir [[Cyprus]], gan adael ei dad, Antigonos, yn feistr ar ran ddwyreinol y [[Môr Canoldir]] a'r [[Dwyrain Canol]] heblaw [[Babylonia]]. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin [[Asia Leiaf]] a gogledd [[Syria]], ac enwodd Demetrius yn gyd-frenin.
 
Yn [[305 CC]], bu Demetrius yn gwarchae ar ddinas [[Rhodos]], oedd wedi gwrthod cynorthwyo Antigonos yn erbyn [[Ptolemi I Soter]]. Enillodd Demetrius yr enw "Poliorcetes" ("y gwarchaewr dinasoedd") am ei ymdrechion, oedd yn cynnwys adeiladu [[tŵr gwarchae]] 40 medr o daldra ac 20 medr o led, a elwid yn "Helepolis" ("Y cipiwr dinasoedd"), ond er gwarchae ar y ddinas am flwyddyn, ni allodd ei chipio.