How Do You Solve A Problem Like Maria?: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''''How Do You Solve a Problem Like Maria?''''' yn rhaglen dalentau Prydeinig a enillodd nifer o wobrau. Cafodd y rhaglen ei darlledu am y tro cyntaf ar nosweithiau Sadwrn ar BBC 1 ar y 29ain o Orffennaf 2006 tan yr 16eg o Fedi 2006. Roedd y rhaglen yn chwilio am berfformwraig sioe gerdd i chwarae rhan Maria von Trapp yng nghynhyrchiad llwyfan 2006 [[Andrew Lloyd Webber]] a David Ian o [[The Sound of Music]]. Cyflwynwyd yu rhaglen gan [[Graham Norton]]. Daw enw'r rhaglen deledu o linell yn un o ganeuon y cynhyrchiad "Maria". Yn y pen draw, dewiswyd [[Connie Fisher]], merch 23 oed, i chwarae rhan Maria; fodd bynnag yn hwyrach gofynnodd Andrew Lloyd Webber i Aoife Mulholland i chwarae rhan Maria yn y sioeau matinee ar ddydd Llun a Mercher, ar ôl i Connie fynd yn sal. Fe'i cynghorwyd i leihau ei baich gwaith i 6 sioe yr wythnos.
 
"How Do You Solve a Problem Like Maria? oedd y rhagflaenydd i gyfres o sioeau talent a gynhyrchwyd gan Lloyd Webber a'r BBC ar gyfer y West End. Enw'r ail gyfres oedd Any Dream Will Do (lle'r oeddent yn chwilio am y prif berfformiwr ar gyfer cynhyrchiad Lloyd Webber a [[Tim Rice]] o [[Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat]]). Y trydedd gyfres oedd [[I'd Do Anything]] (lle'r oeddent yn chwilio am gantores i chwarae rhan Nancy a thri perfformiwr ifanc i chwarae rhan Oliver mewn cynhyrchiad o'r sioe gerdd [[Oliver! (sioe gerdd)|Oliver!]])
 
[[Categori:Rhaglenni teledu]]
 
[[en:How Do You Solve A Problem Like Maria]]