Ffilm yn yr Unol Daleithiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae'r sinema yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ddylanwadol iawn ar sinema ledled y byd ers dechrau'r ugeinfed ganrif. Weithiau, rhennir hanes sinema yn yr Unol Daleithiau i bedwar pr...
 
wicieiddo, cat, eginyn
Llinell 1:
Mae'r '''sinema yn yr Unol Daleithiau''' wedi bod yn ddylanwadol iawn ar [[sinema]] ledled y byd ers dechrau'r ugeinfed ganrif. Weithiau, rhennir hanes sinema yn yr [[Unol Daleithiau]] i bedwar prif gategori; cyfnod y [[ffilm fud|ffilmiau di-sainmud]], sinema clasurol [[Hollywood]], Hollywood Newydd a'r cyfnod cyfoes (ar ôl 1980).
 
Ym 1878, dangosodd Eadweard Muybridge bŵer ffotograffiaeth i ddal symudiad. Ym 1894 cafwyd yr arddangosfa lluniau symudol cyntaf y byd yn Ninas [[Efrog Newydd]], gan ddefnyddio Kinetoscope [[Thomas Edison]]. Y flwyddyn ganlynol, gwelwyd y ffilm cyntaf yn cael ei taflunio yn Efrog Newydd ac roedd yr Unol Daleithiau ar flaen y gâd yn natblygiad ffilmiau sain yn y degawdau a ddilynodd. Ers dechrau'r ugeinfed ganrif, lleolir y diwydiant ffilmiau yn yr Unol Daleithiau o amgylch [[Hollywood]], [[California]]. Roedd y Cyfarwyddwr D.W. Griffith yn ganolog i ddatblygiad ffilmiau ac yn aml, ystyrir ffilm Orson Welles Citizen Kane fel un o'r ffilmiau gorau erioed. Daeth actorion Americanaidd megis [[John Wayne]] a [[Marilyn Monroe]] yn ffigurau eiconig, tra bod y dyfeisiwr / cynhyrchydd Walt Disney yn arweinydd ym myd ffilmiau wedi'u hanimeiddio a gwerthu nwyddau a oedd yn gysylltiedig â ffilmiau. Stiwdios ffilmiau mawrion Hollywood yw canolbwynt ffilmiau llwyddiannus y byd megis [[Star Wars]] (1977) a [[Titanic]] (1997) ac mae'r ffilmiau a wneir yn Hollywood yn dominyddu'r diwydiant ffilmiau byd eang.
 
[[Categori:Ffilm yn yr Unol Daleithiau| ]]
{{eginyn ffilm}}
{{eginyn Unol Daleithiau}}