Wythnos Yng Nghymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Nofel Ffuglen Wyddonol gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn 1957. Y Plot Y mae'r arwr, Ifan Powell (yn yr 1950au) yn cytuno i gymeryd rhan mewn arbraw...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Y Plot
 
Y mae'r arwr, Ifan Powell (yn yr 1950au) yn cytuno i gymeryd rhan mewn arbrawf gwyddonol mewn [[Teithio Drwy Amser]] ac y mae'n glanio yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 2033. Y mae'n aros yno am 5 niwrnod ac y mae'n aros gyda teulu sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth ac yn llewyrchus yn economaidd ac yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r [[Iaith Gymraeg]] yn ffynnu gyda pawb yn gwbl ddwyieithog. Y mae'n syrthio mewn cariad gyda merch y teulu y mae'n aros a hwynt ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru yr 1950au y mae ei hiraeth amdani yn peri iddo fynnu mynd yn ol i 2033. Er i'r gwyddonydd sydd yn gwneud yr arbrawf yn ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.
 
Fodd bynnag, pan y mae'n dychwelyd, y mae'n cael ei hun mewn Cymru cwbl wahanol, er mai'r un yw'r lleoliad a'r dyddiad ag o'r blaen (h.y. Caerdydd yn 2033). Y mae'r iaith Gymraeg wedi marw ac y mae pob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu, yn wir y mae hyd yn oed enw'r wlad wedi ei newid i "Lloegr Orllewinol". Y mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo.
 
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol y mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ylweldymweld a hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un fydd yn dod yn wir. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn wrthwynebus i [[genedlaetholdeb]])gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
 
Er bod y nofel yn arwyddocaol yn hanes Llenyddiaeth Gymraeg gan mai hi oedd y ffuglen wyddonol gyntaf i gael ei ysgrifennu yn yr iaith, fe gydnabyddir yn gyffredinol (yr oedd yr awdur yn cyfaddef hyn ei hun) fod y ffaith ei bod yn bropaganda gwleidyddol rhy amlwg yn tanseilio rhywfaint ar ei gwerth llenyddol.