Mynydd Preseli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mynyddoedd yng ngogledd [[Sir Benfro]] yn ne-orllewin Cymru yw '''Mynydd Preseli''', hefyd '''Mynydd Preselau''', '''Y Preseli''' neu '''Y Preselau'''. Maent yn rhan o [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro]], ac yn ymestyn o gyffiniau [[Abergwaun]] yn y gorllewin hyd ar ardal [[Crymych]] yn y dwyrain.
 
Y copa uchaf yw [[Foel Cwmcerwyn]] (536 medr). Copaon eraill yw [[Carn Ingli]], [[Foel Eryr]], [[Foel Feddau]], [[Frenni Fach]], [[Frenni Fawr]] a [[Foel Drygarn]]. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddues efallai yr cromlech [[Pentre Ifan]]. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith [[Côr y Cewri]] wedi dod o ardal [[Carn Menyn]] (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd [[carnedd|garneddi]] o [[Oes yr Efydd]] a [[bryngeiri]] o [[Oes yr Haearn]], er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.
 
Ceir cyferiad at y Preselau yn chwedl [[Culhwch ac Olwen]], lle mae'r [[Twrch Trwyth]] yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio [[Iwerddon]], ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr [[Arthur]] yng Nghwm Cerwyn.