Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Penrhyn y Crimea"

No change in size ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn [[Rwsiaid]], gyda niferoedd sylweddol o [[Wcrainiaid]] (24%) a [[Tatariaid Crimea]] (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001) hefyd, er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol yw'r Wcraineg, er bod y Rwsieg yn cael ei defnyddio yn eang ar gyfer materion y llywodraeth hunanlywodraethol.
 
Coloneiddwyd y Crimea gan y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn y [[6ed ganrif CC]]. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y [[Gothiaid]], yr [[HuniaidHyniaid]] ac eraill. Yn [[1239]] cafodd ei wneud yn ''khaniad'' gan [[Tatariaid]] yr [[Haid Euraidd]]. Cipiwyd y ''khaniad'' gan y [[Twrci|Tyrciaid]] yn [[1475]] a chafodd y Crimea ei feddiannu gan [[Rwsia]] yn [[1783]]. Rhwng [[1853]] a [[1856]] ymladdwyd [[Rhyfel y Crimea]] yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd [[DU|Prydain]], [[Ffrainc]] ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr [[Almaen]] [[Natsïaeth|Natsïaidd]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]] ([[1941]]-[[1943]]). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i [[Uzbekistan]] yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr [[Undeb Sofietaidd]] mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.
 
 
37,236

golygiad