Gogledd-ddwyrain Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
→‎top: Manion, replaced: y mae → mae using AWB
Llinell 20:
[[Y Cheviot]], yn Northumberland, yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth (815m). [[Newcastle]] yw ei brif ddinas, tra mai [[Sunderland]] yw'r ddinas fwyaf yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth. Yn ogystal â'i ardaloedd trefol – sef [[Tyneside]], [[Wearside]] a [[Teesside]] – mae gan y rhanbarth harddwch naturiol nodedig, sy'n cynnwys [[Parc Cenedlaethol Northumberland]]. Mae'r rhanbarth o bwys hanesyddol hefyd, fel y tystiolaethir gan gestyll Northumberland a dau [[Safle Treftadaeth y Byd]]: Eglwys Gadeiriol [[Durham]] a [[Mur Hadrian]].
 
Yn ystod ail hanner yr [[20g]], dirywiodd y [[diwydiant]] adeiladu [[llong]]au, a oedd wedi dominyddu Wearside a Tyneside, yn ddifrifol. Bellach y mae Tyneside yn ailddyfeisio ei hun fel canolfan ryngwladol ar gyfer [[celfyddyd]] a [[diwylliant]], yn ogystal ag ymchwil [[gwyddoniaeth|wyddonol]]. Ar ôl dioddef dirywiad economaidd yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae Wearside yn dod yn ardal bwysig ar gyfer [[gwyddoniaeth]] a [[technoleg uchel|thechnoleg uchel]]. Mae [[economi]] Teesside yn seiliedig ar ei ddiwydiant petrogemegol gan mwyaf. Mae Northumberland a Swydd Durham, sy'n wledig gan mwyaf, yn seilio rhan fawr o'u heconomi ar [[ffermio]] a [[twristiaeth|thwristiaeth]]. Mae gan ranbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr [[CMC]] y pen isaf yn [[Lloegr]].
 
== Cysylltiadau allanol ==