Bywydeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu at Hanes (cyfieithu o'r erthygl Saesneg)
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Hanes
Llinell 12:
 
Yn dilyn gwaith arloesol [[Antonie van Leeuwenhoek]] ar wella a datblygu'r [[microsgop]] yn yr 17g, tyfodd y maes yn sydyn. Darganfyddwyd celloedd [[sberm]], [[bacteria]] ac organebau bychain eraill, megis [[algâu]].<ref>{{dyf llyfr | olaf = Cobb | cyntaf = Matthew | teitl = The Egg and Sperm Race: The Seventeenth-Century Scientists Who Unravelled the Secrets of Sex, Life and Growth | cyhoeddwr = Simon & Schuster UK | blwyddyn = 2007 | isbn = 978-1416526001}}</ref> Fe helpodd datblygiadau fel hyn nodi pwysigrwydd y [[cell|gell]] i organebau byw erbyn y 19g. Yn 1838, cyhoeddodd y gwyddonwyr Almaenig Matthias Jakob Schleiden a Theodor Schwann dri syniad sydd erbyn hyn yn cael eu derbyn yn gyffredinol: (1) mai'r gell yw uned sylfaenol organebau; (2) fod gan gelloedd unigol holl nodweddion bywyd; a (3) fod pob cell wedi dod o gelloedd eraill yn rhannu. Gelwir y syniadau hyn heddiw yn ''theori cell''.<ref>{{dyf llyfr | olaf = Sapp | cyntaf = Jan | teitl = Genesis: the Evolution of Biology | cyhoeddwr = Gwasg Prifysgol Rhydychen | isbn = 0-19-515618-8}}</ref>
 
Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar [[tacson|dacsonomeg]] a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden [[Carolus Linnaeus]] argraffiad cyntaf ei ''Systema Naturae'' yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.<ref>{{dyf llyfr | olaf = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]] | cyntaf = Carolus | teitl = Systema Naturae | iaith = Lladin}}</ref>. Mae ei gyfundrefn o [[enw deuenwol|enwau deuenwol]] yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.<ref>{{dyf cylch | olaf = Nicholson | cyntaf = Dan H | blwyddyn = 1991 | teitl = A history of botanical nomenclature | iaith = Saesneg | cyfrol = 78 | tud = 33-56 | doi = 10.2307/2399589}}</ref>
 
== Dosbarthiad bywyd ==