Gorsedd y Beirdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
Cynhaliwyd [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]] yng ngwesty'r Llwyn Iorwg (neu'r ''Ivy Bush'') yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], a phenderfynwyd cynnwys yr Orsedd fel rhan o'r defodau. Ers hynny mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r [[Eisteddfod Genedlaethol]], yn arbennig seremonïau'r [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Cadeirio]], y [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Coroni]] a'r [[Fedal Ryddiaith]]. Mae ambell i Archdderwydd wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.
Gwaith dychymyg [[Iolo Morganwg]] yw'r Orsedd. Bathodyn yr Orsedd yw'r [[Nod Cyfrin]] sydd ar holl regalia'r Orsedd. Ymhlith y rhai sy'n cael eu gwisgo gan yr Archdderwydd mae coron, dwyfronneg a theyrnwialen. Yn perthyn i'r orsedd hefyd
Cyflwynir y [[Corn Hirlas]] i'r Archdderwydd gan un o famau'r fro i estyn croeso'r ardal i'r eisteddfod. Yn hanesyddol roedd yr hen gorn yfed yn llys y tywysogion yn estyn croeso i'r gwahoddedigion i'r llys. Bydd un o forynion yr ardal yn rhoi [[Aberthged]] i'r Archdderwydd sef ysgub o ŷd, gwair a blodau'r maes yn arwydd o roddion Duw i'r ardal.
|