Bywydeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 15:
Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar [[tacson|dacsonomeg]] a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden [[Carolus Linnaeus]] argraffiad cyntaf ei ''Systema Naturae'' yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.<ref>{{dyf llyfr | olaf = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]] | cyntaf = Carolus | teitl = Systema Naturae | iaith = Lladin}}</ref>. Mae ei gyfundrefn o [[enw deuenwol|enwau deuenwol]] yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.<ref>{{dyf cylch | olaf = Nicholson | cyntaf = Dan H | blwyddyn = 1991 | teitl = A history of botanical nomenclature | iaith = Saesneg | cyfrol = 78 | tud = 33-56 | doi = 10.2307/2399589}}</ref>
 
Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro [[esblygiad]]. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig [[Jean-Baptiste de Lamarck]] ei waith ''Philosophie Zoologique'', ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad.<ref>{{dyf llyfr| olaf = Gould | cyntaf = Stephen Jay | teitl = The Structure of Evolutionary Theory | cyhoeddwr = Gwasg Prifysgol Harvard | blwyddyn = 2002 | tud = 187 | isbn = 0-674-00613-5}}</ref> Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol – wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach.<ref>{{dyf llyfr|olaf = Lamarck | cyntaf = Jean Baptiste | teitl = Philosophie Zoologique | iaith = Ffrangeg | blwyddyn = 1809}}</ref> Ond cynnigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr [[Charles Darwin]] yn dilyn ei deithiau i Ynysoedd y Galapagos a'i ddealltwriaeth o faes [[geoleg]], gan ddefnyddio [[detholiad naturiol]] i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro [[Alfred Russel Wallace]] i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain [[Asia]].<ref>{{dyf llyfr|olaf = Larson | cyntaf = Edward J | blwyddyn = 2006 | teitl = Evolution: The Remarkable History of a Scientific Theory | cyhoeddwr = Random House | isbn = 978-1-58836-538-5}}</ref><ref>{{dyf gwe | url = https://www.theguardian.com/science/2008/jun/22/darwinbicentenary.evolution | cyfenw = McKie | enwcyntaf = Robin | teitl = How Darwin won the evolution race | iaith = Saesneg | gwaith = y Guardian | dyddiadcyrchiad = 2017-11-16}}</ref><ref>{{dyf gwe | cyfenw= Wiliam | enwcyntaf = Math | teitl = Cofio Darwin Cymru | gwaith = BBC Cymru Fyw | url = http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/24841161 | dyddiadcyrchiad = 2017-11-16}}</ref>
 
== Dosbarthiad bywyd ==