Gramadeg cynhyrchiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: manion cyffredinol a LLByw, replaced: 4edd ganrif CC4 CC using AWB
→‎Gramadegolrwydd: Manion, replaced: y mae → mae using AWB
Llinell 32:
==Gramadegolrwydd==
 
Pan ddatblygwyd gramadeg cynhyrchiol am y tro cyntaf, gobeithiai rywrai y byddai'n ffurfioli'r casgliad o reolau mae dyn yn eu gwybod wrth wybod ei famiaith ac wrth gynhyrchu brawddegau cywir yn ei famiaith (greddf ramadegol). Ond mae Chomsky wedi gwadu hyn dro ar ôl tro: yn ei dyb ef, mae gramadeg yn ddamcaniaeth sy'n nodi'r hyn sy'n rhaid i ddyn wybod er mwyn adnabod brawddegau gramadegol gywir, ond nid o reidrwydd yn egluro'r ffyrdd y mae dyn yn deall neu'n cynhyrchu iaith.
 
Mewn gwirionedd, mae siaradwyr iaith gyntaf fel arfer yn gwrthod brawddegau a gynhyrchir gan ramadeg strwythur cymal. Er enghraifft, er bod mewnosodiad dwfn iawn yn gywir yn ôl rheolau'r gramadeg, nid ydyn yn cael eu derbyn gan wrandawyr. O ganlyniad, nid oes gan ramadeg cynhyrchiol lawer o ddylanwad ym maes [[seicoieithyddiaeth]].