Gronw Pebr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q649629 (translate me)
→‎top: Manion, replaced: yr oedd → roedd using AWB
Llinell 5:
"Paid â phoeni," meddai Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd. Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon, yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."
 
Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oeddroedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan [[Afon Cynfal]] (ger [[Ffestiniog]] heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.
 
Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn [[eryr]] a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.