Gwener (duwies): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎top: Manion, replaced: yr oedd → roedd using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:TITIAN - Venus Anadyomene (National Galleries of Scotland, c. 1520. Oil on canvas, 75.8 x 57.6 cm).jpg|bawd|dde|200px|''Gwener yn ymolchi'' gan [[Titian]] (tua [[1525]]), [[Oriel Genedlaethol yr Alban]]]]
 
'''Gwener''' (o'r [[Lladin]] ''Veneris'', "yn perthyn i Venus") yw'r ffurf Gymraeg o'r enw "Venus", a oedd yn dduwies serch a phrydferthwch [[mytholeg Rufeinig]]. Rhoddodd ei henw i [[Gwener (planed)|Gwener]], yr ail blaned oddi wrth yr [[Haul]], ac enwyd diwrnod o'r wythnos ar ei hôl, ''Veneris dies'', a ddaeth i'r Gymraeg fel Dydd Gwener. Mae'r dduwies, fel llawer o dduwiau [[Rhufain]], yn tarddu o [[Mytholeg Roeg|fytholeg Roeg]], lle yr oeddroedd yn ymddangos dan yr enw [[Aphrodite]].
 
Yn ôl fersiynau gwahanol o'r chwedl cafodd Gwener ei geni yn y môr ger naill ai [[Cyprus]] neu ynys [[Cythera]]. Caiff Gwener ei phortreadu'n aml gan y chwedlau fel cymeriad balch a byr ei thymer. Roedd yn anffyddlon yn gyson i'w gŵr [[Fwlcan]] (Hephaestos) a chafodd berthnas gyda [[Mawrth (duw)|Mawrth]], duw rhyfela, [[Adonis]] ac [[Anchises]] (yn ddiweddarach, byddai'n cenhedlu'r arwr [[Aeneas]] gyda'r dyn meidrol hwn). Roedd Gwener hefyd yn fam i [[Ciwpid]], duw serch. Yn yr ''[[Iliad]]'', Gwener oedd yn rhannol gyfrifol am [[Rhyfel Caerdroea|Ryfel Caerdroea]] hefyd am iddi gynnig [[Elen o Gaerdroea]] yn wraig i [[Paris (chwedloniaeth)|Baris]].