Bywydeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
un 'n' yn cynigiwyd
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar [[tacson|dacsonomeg]] a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden [[Carolus Linnaeus]] argraffiad cyntaf ei ''Systema Naturae'' yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.<ref>{{dyf llyfr | olaf = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]] | cyntaf = Carolus | teitl = Systema Naturae | iaith = Lladin}}</ref>. Mae ei gyfundrefn o [[enw deuenwol|enwau deuenwol]] yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.<ref>{{dyf cylch | olaf = Nicholson | cyntaf = Dan H | blwyddyn = 1991 | teitl = A history of botanical nomenclature | iaith = Saesneg | siwrnal = Annals of the Missouri Botanical Garden | cyfrol = 78 | tud = 33-56 | doi = 10.2307/2399589}}</ref>
 
Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro [[esblygiad]]. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig [[Jean-Baptiste de Lamarck]] ei waith ''Philosophie Zoologique'', ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad.<ref>{{dyf llyfr| olaf = Gould | cyntaf = Stephen Jay | teitl = The Structure of Evolutionary Theory | cyhoeddwr = Gwasg Prifysgol Harvard | blwyddyn = 2002 | tud = 187 | isbn = 0-674-00613-5}}</ref> Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol – wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach.<ref>{{dyf llyfr|olaf = Lamarck | cyntaf = Jean Baptiste | teitl = Philosophie Zoologique | iaith = Ffrangeg | blwyddyn = 1809}}</ref> Ond cynigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr [[Charles Darwin]] yn dilyn ei deithiau i [[Ynysoedd y Galapagos]] a'i ddealltwriaeth o faes [[geoleg]], gan ddefnyddio [[detholiad naturiol]] i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro [[Alfred Russel Wallace]] i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain [[Asia]].<ref>{{dyf llyfr|olaf = Larson | cyntaf = Edward J | blwyddyn = 2006 | teitl = Evolution: The Remarkable History of a Scientific Theory | cyhoeddwr = Random House | isbn = 978-1-58836-538-5}}</ref><ref>{{dyf gwe | url = https://www.theguardian.com/science/2008/jun/22/darwinbicentenary.evolution | cyfenw = McKie | enwcyntaf = Robin | teitl = How Darwin won the evolution race | iaith = Saesneg | gwaith = y Guardian | dyddiadcyrchiad = 2017-11-16}}</ref><ref>{{dyf gwe | cyfenw= Wiliam | enwcyntaf = Math | teitl = Cofio Darwin Cymru | gwaith = BBC Cymru Fyw | url = http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/24841161 | dyddiadcyrchiad = 2017-11-16}}</ref>
 
Yn yr 20g, bu llawer o ymdrech i geisio deall natur [[etifeddeg]]. Roedd y mynach o [[Morafia|Forafia]] [[Gregor Mendel]] wedi dangos y gall nodweddion pennodol gael eu hetifeddu yn 1865, ond ni chafodd ei waith sylw rhyngwladol nes 1901.<ref>{{dyf llyfr | olaf = Ford | cyntaf = EB | blwyddyn = 1960 | teitl = Mendelism and Evolution | argraffiad = 7 | cyhoeddwr = Methuen & Co}}</ref> Yn 1927, cynnigiodd Nikolai Koltsov fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl etifeddol gyda dau edafedd, y naill yn datblygu gan ddefnyddio'r llall fel templed.<ref>{{dyf cylch|olaf = Soyfer | cyntaf = VN | Blwyddyn = 2001 | teitl = The consequences of political dictatorship for Russian science | siwrnal = Nature Reviews Genetics | cyfrol = 2 | rhifyn = 9 | tud = 723-729 | doi = 10.1038/35088598}}</ref> Dangoswyd yn y 1940au mai DNA oedd y moleciwl hwn drwy'r arbrawf [[Avery-MacLeod-McCarty]] mewn bacteria, a cadarnawyd hyn mewn firwsau yn 1952 yn yr arbrawf [[Hershey-Chase]].<ref>{{dyf cylch | cydawduron = Avery, Oswald T; MacLeod, Colin M; McCarty, Maclyn | teitl = Studies on the Chemical Nature of the Substance Inducing Transformation of Pneumococcal Types: Induction of Transformation by a Deoxyribonucleic Acid Fraction Isolated from Pneumococcus Type III | siwrnal = Journal of Experimental Medicine | cyfrol = 79 | rhifyn = 2 | blwyddyn = 1944 | tud = 137-158 | doi = 10.1084/jem.79.2.137}}</ref><ref>{{dyf cylch | cydawduron = Hershey, A; Chase, M | blwyddyn = 1952 | siwrnal = Journal of Genetic Physiology | teitl = Independent functions of viral protein and nucleic acid in growth of bacteriophage | cyfrol = 36 | rhifyn = 1 | tud = 29-56 | url = http://www.jgp.org/cgi/reprint/36/1/39.pdf | doi = 10.1085/jgp.36.1.39}}</ref>