Bioleg datblygiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Categori:Bioleg
Llinell 4:
 
== Safbwyntiau ==
Y prif brosesau sy'n cymryd rhan yn [[embryo|natblygiad embryonig]] anifeiliaid yw: rhagnodi rhanbarthol, morffogenesis, gwahaniaethu gan gelloedd, twf, a rheolaeth gyffredinol o amseru. Mae rhagnodi rhanbarthol yn cyfeirio at y prosesau sy'n creu'r patrwm gofodol a geir mewn pelen neu daflen o gelloedd sydd yr un fath cyn datblygu. Dyw camau cyntaf rhagnodi rhanbarthol ddim yn creu celloedd â gwahaniaethau gweithredol, ond yn hytrach creir poblogaethau o gelloedd wedi ymrwymo i ffurfio rhan penodol o'r organeb. Mae'r rhain yn cael eu diffinio gan gyfuniadau o ffactorau trawsgrifio penodol yn cael eu troi ymlaen. Mae morffogenesis yn ymwneud â sut mae siapau tri-dimensiwn yn cael eu ffurfio. Mae'n cynnwys y trefniant a geir mewn symudiadau celloedd yn unigol ac mewn taflenni. Mae'n bwysig ar gyfer creu tri haen germ cynnar yr embryo (yr ectoderm, y mesoderm a'r endoderm) ac ar gyfer adeiladu strwythurau cymhleth yn ystod datblygiad organau. Mae gwahaniaethu gan gelloedd yn cyfeirio'n benodol at sut ffurfir celloedd arbennigol megis mewn nerfau[[nerf]]au, cyhyrau[[cyhyr]]au, chwarennau[[chwaren]]nau ac ati. Mewn celloedd sydd wedi gwahaniaethu, gwelir proteinau penodol sy'n gysylltiedig â swyddogaeth y gell. Mae twf yn cynnwys cynnydd cyffredinol o ran maint, a hefyd y gwahaniaeth mewn twf rhwng rhannau gwahanol or organeb sy'n cyfrannu at forffogenesis. Mae'n digwydd yn bennaf drwy gellraniad ond hefyd drwy newidiadau ym maint celloedd, ac yn neddodiad deunyddiau y tu allan i'r gell. Yr rhan o'r maes y deallir y lleiaf amdano yw'r astudiaeth o sut mae amseriad digwyddiadau a phrosesau yn cael ei reoli. Mae'n dal yn aneglur os oes gan ebryonau ddull o reoli amser ar draws eu celloedd neu beidio.
 
Mae planhigion yn defnyddio prosesau tebyg i anifeiliaid tra'n datblygu. Un gwahaniaeth mawr yw analluedd y rhan fwyaf o gelloedd mewn planhigion i symud. Mae morffogenesis mewn planhigion, felly, yn digwydd drwy wahaniaethau mewn twf yn hytrach na symudiadau gan gelloedd. Ceir hefyd sbardunau a genynnau gwahanol mewn planhigion i ysgogi datblygiad o'u cymharu ag anifeiliaid.
 
{{Biolegtroed}}
 
[[Categori:Bioleg]]