Gwyneddigion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
→‎top: Manion, replaced: y mae → mae using AWB
Llinell 1:
[[Cymdeithas]] [[llenyddiaeth|lenyddol]] a [[diwylliant|diwylliannol]] a sefydlwyd gan [[Cymry|Gymry]] alltud gwladgarol yn [[Llundain]] yn [[1770]] gyda'r amcan o ddiogelu a hyrwyddo [[llenyddiaeth Gymraeg]] a [[diwylliant Cymru]] oedd '''Y Gwyneddigion''' (weithiau '''Cymdeithas y Gwyneddigion'''). Mae'n cael ei hystyried yn aml yn ymateb gwerinol i [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]].
 
Dechreuodd y Gwyneddigion fel math o glwb bychan preifat i Gymry Llundain. Fel y mae ei henw yn'n awgrymu, [[Gogledd Cymru|Gogleddwyr]] oedd y mwyafrif o'r aelodau. Roedd ei haelodau pwysicaf yn cynnwys y ffilanthropydd [[Owain Myfyr]], y bardd [[Jac Glan y Gors]], y geiriadurwr [[William Owen Pughe]], a'r llenor a ffugiwr unigryw [[Iolo Morgannwg]]. Cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol sydd a lle pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg a datblygiad ysgolheictod Cymraeg, yn enwedig ''[[Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym]]'' (1789), y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]'' (1801-07, 3 cyfrol), a'r cylchgrawn hynafiaethol ''[[Y Greal]]'' (1805-07).
 
Cynhaliwyd sawl [[eisteddfod]] dan nawdd ac arweiniad y Gwyneddigion hefyd, yn cynnwys [[Eisteddfod y Bala 1793]] ac [[Eisteddfod Caerwys 1798]], sy'n gerrig milltir yn hanes yr eisteddfod fodern.