Gwynfardd Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
→‎Cerddi: Manion, replaced: Y mae → Mae using AWB
Llinell 5:
 
==Cerddi==
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Y maeMae'r [[awdl]] i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y [[Gogynfeirdd]] a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y [[sant]] yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o [[Buchedd Dewi|fuchedd y sant]], fel [[Senedd Llanddewibrefi]], a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys [[Llanddewibrefi]]. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y [[clas]]au a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.<ref name="Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif 1994"/>
 
Ceir testunau'r cerddi hyn yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] mewn llaw a briodolir i gopïydd o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Digwydd yr awdl i Ddewi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.<ref name="Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif 1994"/>