Santes Elen Luyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
B man cyweiriadau
Llinell 1:
Mae hon yn erthygl am "'''Elen o Erging"''', priod Macsen Wledig. Gelwir hi weithiau "Elen o Segontiwm" (Caernarfon) neu "Elen Luyddog" (Elen y Lluoedd).
 
Ni dylid cymysgu hi gyda'r Ymerodres Helena (250-330) mam yr Ymerawdwr Cystennin (Constantine). Dylid darllen yr erthygl hwn ynghyd destun yr erthygl "Santesau Celtaidd 388-680
Llinell 7:
 
=== Chwedl yn y Mabinogion ===
Mewn chwedl a datblygodd rhai canrifoedd ar ôl ei bywyd dywedwyd fod [[Macsen Wledig]] yn breuddwydio ei fod yn teithio i ogledd-orllewin [[Ynys Brydain]], lle mae'n gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Aiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae [[gwyddbwyll]] a'r forwyn 'decaf erioed' yn eistedd ar 'orsedd orwych'. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannu. Mae Macsen yn anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd i chwilio am y ferch yn y freuddwyd, ac yn y diwedd maent yn darganfod y gaer a'r forwyn. Maent yn gofyn i'r forwyn briodi Macsen, ond yn y chwedl, mae hi'n gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru Beli fab Manogan a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n aros gyda'i thad [[Eudaf]] a'i brodyr Cynan ([[Cynan Meiriadog]]) ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon ([[Segontium]]) yn rhan o'r amddifynniad yn erbyn ymosodiadau o'r gogledd. Mae'n chwedl tlws sy'n cadarnhau fod Elen a Macsen wedi cwrdd yng Nghaernarfon.
 
=== Macsen ===
Daeth Macsen yn llywodraethwr Rhufeinig ym Mhrydain a pan etholwyd Macsen yn Ymerawdwr gan ei filwyr gadewodd y ddau Ynys Prydain yn y flwyddyn 383. Ar eieu taith tua Rhufain cwrddasant â [[Martin o Tours]] ac yn ymdiddori yn y syniadau newydd o Gristnogaeth a daeth o'r Aifft.. Mae Macsen yn gwarchae dinas Rhufain am flwyddyn ,yn aflwyddianus, nes daw brodyr Elen a chriw o ryfelwyr [[Arfon]] i gipio'r ddinas a'i hadfer i Facsen. Collodd Macsen frwydr yn yr Eidal a dienyddiwyd ef yn388.<ref name=":0" /> Ar ol cyfnod o grwydro cyraeddodd y milwyr oedd wedi teithio gyda Macsen, i [[Llydaw|Lydaw]] Mae hanner y llu'n dychwelyd i Gymru gydag Adeon a'r lleill yn aros yn [[Llydaw]] dan Cynan. Trowyd y hanes hwn yn chwedl dros gyfnod. Cyfeirir at y traddodiad mewn un o'r [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel un o'r "Tri Chyfor a aeth o'r ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt".<ref>Rachel Bromwich, ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1964; arg. newydd 1991), Triawd 35.</ref>[[Delwedd:Heracleum mantegazzianum (Meise) JPG1b.jpg|bawd|[[Ffenigl Elen Luyddog]] (''Heracleum mantegazzianum'') a enwyd ar ôl Elen.]]
 
=== Y Weddw yn Dychweled ===