Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Iwerddon"

Lleihawyd o 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
→‎Y cyfnod cynnar: Manion, replaced: Yr oedd → Roedd using AWB
B (clean up)
(→‎Y cyfnod cynnar: Manion, replaced: Yr oedd → Roedd using AWB)
==Y cyfnod cynnar==
 
Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y [[5g]], gyda [[Sant Padrig]] yn arbennig o amlwg. Erbyn tua [[600]] roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua [[800]] bu llawer o ymosodiadau gan y [[Llychlynwyr]], a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd [[Teyrnas Dulyn]] yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng "Gwŷr Dulyn" a [[Teyrnas Gwynedd|brenhinoedd Gwynedd]] erbyn yr [[Oesoedd Canol]]. Ganwyd [[Gruffudd ap Cynan]] yn Nulyn a'i fagu yn [[Sord Cholmcille]] (Swords) gerllaw. Yr oeddRoedd yn fab i [[Cynan ap Iago]] a [[Ragnell]] ferch [[Olaf Arnaid]], brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon.
 
Roedd Iwerddon wedi ei rhannu yn nifer o deyrnasoedd annibynnol; a symbolaidd oedd swyddogaeth [[Uchel Frenin Iwerddon]] yn bennaf. Ceisiodd [[Brian Boru]] (''Brian mac Cennétig'') newid hyn, a gwneud ei hun yn wir reolwr Iwerddon. Ymladdwyd [[Brwydr Clontarf]] ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]] ([[23 Ebrill]]), [[1014]], rhwng Brian Boru a byddin Brenin [[Leinster]], [[Máel Mórda mac Murchada]], oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr [[Dulyn]] dan arweiniad cefnder Máel Mórda , [[Sigtrygg Farf Sidan]] (un o hynafiaid Gruffudd ap Cynan). Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.