Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Henri Desgrange"

Lleihawyd o 4 beit ,  2 flynedd yn ôl
→‎Bywgraffiad: Manion, replaced: yr oedd → roedd , y mae → mae using AWB
(→‎L'Auto: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB)
(→‎Bywgraffiad: Manion, replaced: yr oedd → roedd , y mae → mae using AWB)
Roedd Henri Desgrange yn un o efeilliad, disgrifwyd ei frawd Georges Desgrange fel rhywun a oedd heb uchelgeisiau o gwbl.<ref name=Goddet>Goddet, Jacques (1991) ''L'Équipée Belle'', Robert Laffont, France</ref> Ganwyd y ddau frawd ym [[Paris|Mharis]], i deulu cyfforddus dosbarth canol.
 
Gweithiodd Desgrange fel clerc yn swyddfa cyfraith Depeux-Dumesnil ger y [[Place de Clichy]] ym Mharis, ac mae'n bosib y bu iddo ymgymhwyso fel [[cyfreithiwr]].<ref>Mae rhifyn cyntaf ''L'Auto'' yn ei ddisgrifio fel "a former advocate at the Court of Appeal".</ref> Mae chwedl yn honni iddo gael ei ymddiswyddo am seiclo i'r gwaith, gan iddo ddangos amlinell ei croth coes yn ei sannau tyn wrth wneud hynny.<ref name=Nicholson>Geoffrey Nicholson (1991) ''Le Tour, the rise and rise of the Tour de France'', Hodder and Stoughton, y DU</ref> Roedd yn well ganddo'r byd chwaraeon i'r gyfraith, felly dechreuodd ymglymu ei hun â chwaraeon, ymrwymiad a barhaodd hyd weddill ei oes. Gwyliodd Desgrange ei ras seiclo gyntaf ym 1891 pan aeth i ddiwedd ras [[Bordeaux-Paris]].<ref name=Boeuf>Jean-Luc Boeuf a Yves Léonard (2003) ''La République de Tour de France'', Seuil, Ffrainc</ref> Dechreuodd rasio ar y trac ond dioddefodd yno oherwydd diffyg cyflymu pwerus yr oeddroedd ei angen. Roedd reidio dygner yn gweddu'n well gyda fe, a gosododd record yr awr cyntaf erioed i gael ei gydnadbod ar 11 Mai 1893, pan reidiodd 35.325 cilomedr ar [[velodrome]] Buffalo ym Mharis.<ref>Gosodwyd y record gynt ym 1876 pan reidiodd [[F. L. Dodds]] 26.508 km ar [[penny-farthing]]. Roedd y Vélodrome Buffalo ger y Porte Maillot, Neuilly-sue-Seine. Adeiladwyd ym 1893 a rhedwyd hyd 1895 gan Tristan Bernard, y dyn a ddechreuodd yr arferiad o ganu cloch i ddynodi'r gylched olaf. Diflanodd y trac pan defnyddiwyd i adeiladu ffatri awyrennau yn ystod y rhyfelbyd cyntaf.</ref> Sefydlodd recordiau ar bellteroedd o 50 a 100 cilomedr a 100 milltir yn ogystal, ac ef oedd pencampwr [[treisicl]] 1893.<ref>Noël Truyers (1999); Henri Desgrange, De Eeclonaar, Gwlad Belg</ref><ref>Roedd recordiau yn bodoli gynt, ond hwn oedd y cyntaf i gael ei gadarnhau'n yn rhyngwladol.</ref>
 
Ysgrifenodd Desegrange lawlyfr hyfforddi ym 1894, ''La tête et les jambes'',<ref>''La tête et les jambes''(1894), L. Pochy, France, ailargraffwyd 1930, Henri Richard, Ffrainc</ref> ynddo cynhaliodd sgwrs gyda reidwr ifanc na gafodd ei enwi, credir mai ef pan oedd yn ifanc yw'r reidiwr hwn. Mae'r llyfr yn cynnwys y cyngor nad yw reidiwr uchelgeisiol angen merch ddim mwy nag y mae anged pâr o sannau heb eu golchi. Ysgrifennodd lyfr arall ym 1894, ''Alphonse Marcaux''<ref>''Alphonse Marcaux'' (1899), L. Pochy, France</ref>.
 
Ym 1897 daeth yn gyfarwyddwr [[velodrome]] [[Parc des Princes]] ac yna ym mis Rhagfyr 1903, yn gyfarwyddwr ar drac dan dô parhaol cyntaf Ffrainc, sef y [[Vélodrome d'Hiver]], ger y [[Tŵr Eiffel]].