Coleg Normal, Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: rhyngwici
enw cywir
Llinell 1:
Coleg hyfforddi athrawon oedd '''Coleg y Normal, Bangor''' a newidiodd ei enw oddeutu [[1979]] i '''Y Coleg Normal'''. Fe'i sefydlwyd yn [[1861]] drwy arian a godwyd gan gymdeithasau [[Cymraeg]] a Syr [[Hugh Owen]] - cyfanswm o £11,000; derbyniwyd y swm tila o £2,000 gan Lywodraeth Prydain.
 
Fe'i lleolir ar lannau [[Afon Menai]] - nid nepell o [[Bangor|Fangor]]. Yn [[1996]] fe lyncwyd y coleg annibynol hwn gan [[Prifysgol Bangor|Brifysgol Cymru, Bangor]]. Ceir campws arall oddeutu milltir i ffwrdd yng nghanol Bangor Uchaf, lle mae Neuadd Eryri, Neuadd Ogwen, Neuadd Ddyfrdwy a Neuadd Aethwy. [[John Phyllips]] oedd y Prifathro cyntaf. Esgymunwyd y Gymraeg fel pwnc rhwng [[1865]] a [[1907]]. Agorwyd y drws i fyfyrwyr benywaidd yn [[1910]].