Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Jones, Gellilyfdy"

Ychwanegwyd 235 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
dolenni mewnol etc.
B
(dolenni mewnol etc.)
Copïydd [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau]] a hynafiaethydd Cymreig oedd '''John Jones, Gellilyfdy''' (c.1578-83 — c. [[1658]]).
 
Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf [[Ysgeifiog]] yn [[Sir y Fflint]]. Canodd y beirdd [[Wiliam Llŷn]] a [[Wiliam Cynwal]] farwnadau ar ôl ei daid, oedd yn berchen llawysgrifau. Roedd John Jones mewn anhawsterau ariannol parhaus, a charcharwyd ef am ddyled nifer o weithiau, o leiaf dair gwaith yng [[Carchar y Fflyd|Ngharchar y Fflyd]] yn [[Llundain]].
 
Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copio llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros 100 o'i lawysgrifau yar gadw yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], ac eraill yn llyfrgell dinas [[Llyfrgell Dinas Caerdydd]] a'r [[Amgueddfa Brydeinig]]. Roedd ganddo gysylltiad agos a'r hynafiaethydd [[Robert Vaughan]], ysgwier [[Hengwrt]], ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt- (Llawysgrifau [[Peniarth]] yn ddiweddarach).
 
 
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint|Jones]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig|Jones]]
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint|Jones]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1650au|Jones]]